Thursday, May 10, 2007

OMIGOD, S4C yn fyw ar y we!


Ron ni ddim yn gwbod tan nawr bo chin galler gwylio S4C yn fyw ar y we! Na ddiwedd ar dim Pobol y Cwm i fi!

Hefyd, ma Con Passionate wedi enill gwobr Rhosyn Aur yn Ngwyl Ewropeaidd, a drafodwyd ar Front Row Radio 4 heno! Wwwwwwwwwwwwwwww!! Cyfres newydd blwyddyn nesa.

Hefyd, tamed o newyddion. Weles I Sian Cothi ai gwallt falmgoch yn Soho ryw dair wthnos nol, yn siopa, wrth gwrs.

No comments: